Mae'r cyfieithiadau Saesneg yn rhanedig rhwng "move/moves/moveth" a "crawl/crawls". Mwy o'r cyntaf na'r ail hyd y gwelaf heb fynd ati i gyfrif pob un!
https://www.biblegateway.com/verse/en/Genesis%201:28
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 21 September 2017 13:02
To: [log in to unmask]
Subject: Genesis 1 28
Dwi'n cyfieithu gwaith addysg grefyddol ac yn cyfeirio tipyn at y Beibl.
Dwi'n amau bod camgyfieithiad yn y Beibl Cymraeg Newydd yn adnod 28 Genesis 1.
Mae'n sôn am "bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear".
"pob peth byw a ymsymudo ar y ddaear" sydd ym Meibl William Morgan.
Dwi'n meddwl bod troswyr y Beibl newydd wedi drysu efo adnod 26 sy'n sôn am ymlusgiaid.
Digon i wneud i ddyn amau gweddill y Beibl newydd, dydi.
Geraint
|