O, Ann, Druan.
A oes posibilrwydd y bydd dy gyfraniadau gwerthfawr di a Bruce yn yr archif cyffredinol sydd gan Welsh Termau?
Rydw innau wedi colli llawer o gysylltiadau dros y blynyddoedd.
Bellach, rydw i'n gofyn y cwestiwn - pryd faswn i wedi cael y cyfle i ailymweld รข llawer o'r ohebiaeth yma.
Cwyd dy galon. Os nad oes perygl i dy identiti, gad inni obeithio bod llawer iawn o chwynnu wedi digwydd drosot ti.
Mae cadw'r holl ohebiaeth yma yn bapur ac fel arall yn ein llethu.
Cofion at y ddau ohonoch chi.
Megan
----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 19/07/2017 - 19:26 (GMTDT)
To : [log in to unmask]
Subject : Apel Personol - Argyfwng Cyfrifiadurol
Annwyl Bawb,
'Roedd gen i nifer FAWR o Ffolderi o ohebiaeth ar y cyfrifiadur, yn mynd
yn ol blynyddoedd maith. 'Roeddent yn cynnwys, er enghraifft, ymhell
dros ddeng mlynedd o ohebiaeth Welsh-Termau Cymraeg a gohebiaeth breifat
ynghylch termau, gohebiaeth a chwsmeriaid gan gynnwys atebion i
gwestiynau, materion yswiriant, gwyliau, personol ayb. Yr wythnos
ddiwethaf, bum yn brysur yn tacluso nifer fawr o negeseuon o'r Inbox i'r
ffolderi perthnasol.
Dros y Sul, cefais "fyg" ar weinydd yr e-bost (Thunderbird) a gaeodd fy
nghyfrif e-bost. 'Roedd y ffolderi i gyd wedi diflannu. Mae'n debyg,
taswn i wedi mynd a'r cyfrifiadur i'r siop yn syth, byddai wedi bod modd
i'w hachub, ond yn lle hynny, dilynais gyngor ar ryw wefan ynghylch sut
i ail-gysylltu fy nghyfrif. Mae'n golygu bod y cyfrif wedi'i ail-osod ac
mae blynyddoedd o gysylltiadau wedi'u colli am byth.
Felly:
1) Os cewch chi'r un drafferth, byddwch yn ofalus iawn.
2) Mae arna i eisiau LOT o gydymdeimlad.
3) Os ydych chi wedi anfon unrhyw negeseuon ataf a heb gael ateb eto, y
tebygrwydd yw y byddant yn yr Inbox, yn aros sylw, ond ni fyddai'n ddrwg
o beth eu hela nhw eto er mwyn bod yn sicr.
Braidd yn ddigalon,
Ann
|