Oes un peth yn gallu bod yn gywirach na'r llall?
Cawsom drafodaeth ar 'i mewn' sbel fach yn ol, ac rwy'n cofio David Bullock yn cyfrannu gwybodaeth ddifyr am darddiad y gair 'mewn'. Ydy e ddim yn yr Archif?
Y gair gwreiddiol yw rhy fath o 'ymywn' nid 'i mewn', ond bod hwnnw wedi'i hollti ar batrwm yr 'i' arddodiad. Felly, mae 'i fewn' yn amhosib. Rhyngoch chi a'ch pethe wedyn o ran defnyddio'r arfer llafar, ond dyw e ddim i'w glywed yn gyffredinol yn y de.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Bethan Mair
Sent: 21 June 2017 11:10
To: [log in to unmask]
Subject: I mewn, i fewn
Sori i ofyn cwestiwn amlwg, ond a yw un yn gywirach na'r llall?
Bethan
Anfonwyd o fy iFfĂ´n
Sent from my iPhone
|