Eiriolwr fyswn i'n defnyddio, bosib "Eiriolwr dros Ddyslecsia"?
Lewys
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 04 May 2017 13:23
To: [log in to unmask]
Subject: Dyslexia Champion
Oes rhywun wedi dod ar draws "Dyslexia Champion"?
Rwy'n gallu gweld un cyfeiriad gan Heddlu'r Gogledd - "Pencampwr Dyslecsia" ond rwy braidd yn amheus o "Pencampwr".
I mi, mae'n cyfleu'r ystyr o fod wedi ennill rhywbeth h.y. "A person who has defeated or surpassed all rivals in a competition, especially in sports." yn hytrach nag "A person who fights or argues for a cause or on behalf of someone else."
Mae "eiriolwr", "cefnogwr" a "hyrwyddwr" yn gweithio weithiau e.e. Hyrwyddwr Dwyieithrwydd ond mae'n edrych yn debyg y bydd angen ychwanegu gair/geiriau ychwanegol yn fan hyn.
Rwy'n gweld bod Carolyn yn mynd i ddefnyddio "Hyrwyddwr Gofal Dementia" am Dementia Champion "am y tro" ym Medi 2015. Tybed a fu rhyw ddatblygiad wedyn?
"Hyrwyddwr ym maes Dyslecsia"?
Diolch
Siân
Cymraeg:-
Mae'r neges hon yn gyfrinachol. Os nad chi yw'r derbynnydd y bwriedid y neges ar ei gyfer, rhowch wybod i'r anfonwr yn ddioed. Dylid ystyried unrhyw
ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod yn rhai personol, ac nid o angenrhaid yn rhai o eiddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, nac unrhyw ran gyfansoddol
ohoni na chorff cysylltiedig.
Cofiwch fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg roi cyhoeddusrwydd i gynnwys unrhyw e-bost neu ohebiaeth a dderbynnir,
yn unol ag amodau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. I gael rhagor o wybodaeth am Ryddid Gwybodaeth, cofiwch gyfeirio at wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn
www.abm.wales.nhs.uk
English:-
This message is confidential. If you are not the intended recipient of the message then please notify the sender immediately.
Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of Abertawe Bro Morgannwg University Health Board any
constituent part or connected body.
Please be aware that, under the terms of the Freedom of Information Act 2000, Abertawe Bro Morgannwg University Health Board may be required to make public the
content of any emails or correspondence received. For further information on Freedom of Information, please refer to the Abertawe Bro Morgannwg University Health Board
website at www.abm.wales.nhs.uk.
|