Oes rhywun wedi dod ar draws "Dyslexia Champion"?
Rwy'n gallu gweld un cyfeiriad gan Heddlu'r Gogledd - "Pencampwr Dyslecsia" ond rwy braidd yn amheus o "Pencampwr".
I mi, mae'n cyfleu'r ystyr o fod wedi ennill rhywbeth h.y. "A person who has defeated or surpassed all rivals in a competition, especially in sports." yn hytrach nag "A person who fights or argues for a cause or on behalf of someone else."
Mae "eiriolwr", "cefnogwr" a "hyrwyddwr" yn gweithio weithiau e.e. Hyrwyddwr Dwyieithrwydd ond mae'n edrych yn debyg y bydd angen ychwanegu gair/geiriau ychwanegol yn fan hyn.
Rwy'n gweld bod Carolyn yn mynd i ddefnyddio "Hyrwyddwr Gofal Dementia" am Dementia Champion "am y tro" ym Medi 2015. Tybed a fu rhyw ddatblygiad wedyn?
"Hyrwyddwr ym maes Dyslecsia"?
Diolch
Siân
|