Caf yr argraff nad oes llawer o bobl yn gyfarwydd ag "An English-Welsh
Phrasebook for Health Care Professionals - Gair i Glaf" gan J Elwyn
Hughes. Mae'n hynod o dda o ran beth mae pobl yn ei ddweud go iawn (yn y
Gogledd o leiaf), ond 'rwy'n synnu cyn lleied a ddywedir ar y pwnc hwn,
dim ond cwpl o ymadroddion perthnasol:
Oes 'na waed yn eich carthion chi?
Ydach chi wedi ca'l eich gweithio?
Gofynnaf, mewn anwybodaeth lwyr, a fyddai "carthion" yn ddealladwy ac yn
dderbyniol i'r rhan fwyaf o bobl?
Ann
On 04/04/2017 08:05, Rhian Huws wrote:
> Bore Da
> Ymddiheuriadau os ydych newydd gael eich brecwast.
> Dwi'n cyfieithu taflen ar sgrinio'r coluddion ac mae'r gair 'poo' yn cael ei ddefnyddio yn y Saesneg e.e. collect a sampl of your poo. Tydi 'poo' ddim yng Ngheiriadur yr Academi hyd y gwela i. Fyddai 'pw' yn dderbyniol (o gofio bod angen i'r daflen fod yn hawdd ei deall)?
>
> Diolch ymlaen llaw
> Rhian
>
> ---
> This email has been checked for viruses by AVG.
> http://www.avg.com
>
>
|