Bore da Anne,
Diolch yn fawr iawn i chi am eich neges. Llwyddais i gysylltu ag Ifor Glyn ddoe, a dywedodd e y byddai'n eu gadael nhw'n Saesneg, felly dyna wi am wneud y tro hwn o ystyried natur y gwaith, oni bai bod gan rhywun arall farn arbennig o gryf am hyn? Bydd pwy bynnag sy'n cymryd y cwrs yn trafod yr iaith a'r termau mae'r defnyddwyr cyffuriau'n defnyddio, ac yn anffodus, y geiriau Saesneg sy'n cael eu defnyddio.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ymateb i'm neges.
Cofion gorau,
Meinir
|