Rwy'n cael neges yn dweud bod y neges wedi mynd i W-T-C.
Dydw i rioed wedi medru gweld sut i anfon neges o'r wefan, rhaid mod i'n dwp ar y naw! Ac er darllen neges Wyn isod, fedra i ddim nawr weld sut i ateb i neges yno chwaith. Na blwch i'w dicio yn gofyn am gopi o'r neges.
Sioned
On 13 Dec 2016, at 12:53, Sian Roberts wrote:
> Falle, os wyt ti’n cadw’r cofnodion ebost ac yn meddwl y gallet ti fod ishe darllen yn ôl dros y sgwrs gyfan ryw dro, byddai’n dda cynnwys dy negeseuon dy hun - am wn i!
>
> Erbyn meddwl, ro’n i’n arfer cael neges ebost i ddweud bod fy negeseuon wedi’u derbyn gan W-T-C. Dydi hynny ddim yn digwydd nawr - dim bod ots.
>
> Siân
>
>
>> On 13 Dec 2016, at 12:45, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Dwi ddim yn deall pam y byddai rhywun eisiau derbyn copi o'i neges ei hun.
>>
>> Mae'r neges yn y blwch "anfonwyd".
>>
>> Geraint
>>
>> On 13/12/2016 12:37, Wyn Hobson wrote:
>>> Meddai Tim:
>>>
>>>> Problem hollol wahanol sydd gyda fi, sef na fyddaf byth yn gweld fy negeseuon fy hun!
>>> Mae'r un peth yn digwydd i mi os byddaf yn ymateb yn uniongyrchol drwy e-bost i'r fersiwn e-bost o neges a dderbyniwyd.
>>>
>>> Mae'n well, felly, ddefnyddio'r dudalen 'Send Message (WELSH-TERMAU-CYMRAEG)' ar wefan JISCM@ail os am dderbyn copi o'r neges — ond rhaid cofio ticio'r blwch bach 'Send copy of message to: [eich cyfeiriad e-bost]' yng nghornel dde isaf y dudalen.
>>>
>>> Wyn
>>>
|