Dwi'n gweld yn iawn beth sy'n bod ar 'braf' - mi fedrech gael Nadolig
braf heb fod yn garedig nac yn neis wrth neb.
On 15/11/2016 12:35, Sian Roberts wrote:
> Dw innau ddim yn gweld beth sy’n bod ar “braf”.
> Ond os ydyn nhw’n mynnu cael “caredig”, beth am “Pawb yn ddiogel a charedig”?
>
> Siân
>
>
>
>> On 15 Nov 2016, at 12:27, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Dw i ddim yn meddwl bod yr arddodiad 'i' yn iawn ar ôl 'caredig'. Dw i ddim yn gweld be oedd o'i le ar Diogel a Braf chwaith.
>>
>> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Meinir Thomas
>> Anfonwyd: Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2016 11:37
>> At: [log in to unmask]
>> Pwnc: Re: Safe and Nice To All
>>
>> Mae 'Diogel a Charedig i Bawb' yn teimlo fel bod 'diogel' yn mynd gyda 'pawb', fel petaech chi'n dweud 'diogel tuag at bawb'. Byddai coma'n helpu falle? 'Diogel, a Charedig i Bawb'? Neu newid y slogan i 'Aros yn Ddiogel, Caredig i Bawb'? Dolig Diogel, Dolig Caredig? Mae'r ffaith bod Diogel a Braf i Bawb wedi'i hen sefydlu yn fy mhoeni i hefyd.
>>
>> Meinir
|