Bore da bawb,
Hoffwn gael eich cyngor os gwelwch chi'n dda. Mae gennym ymgyrch o'r enw Safe and Nice To All, a'r cyfieithiad sydd wedi'i ddefnyddio ers sawl blwyddyn bellach (dros 6) yw Diogel a Braf i Bawb. Fodd bynnag, mae'r adran gyfathrebu eisiau newid hyn oherwydd nid ydynt yn teimlo bod 'braf' yn cyfleu natur yr ymgyrch, sef bod pawb yn ddiogel dros y Nadolig, a bod pawb yn garedig i'w gilydd. Maen nhw eisiau ei newid i 'Diogel a Charedig i Bawb', ond mae hyn yn edrych yn lletchwith i mi. Beth yw'ch barn chi os gwelwch chi'n? Oes gennych chi gynigion gwell? Byddwn i'n gwerthfawrogi unrhyw sylwadau. Yn bersonol, wi eisiau cadw at 'Diogel a Braf i Bawb' ond mae'r adran gyfathrebu'n mynnu ei newid.
Diolch yn fawr.
Cofion gorau,
Meinir
|