Annwyl Branwen,
Gobeithio bydd yr enwau ar gael cyn diwedd y prynhawn, wedi i Duncan
Brown ymgynghori a rhyw arbenigwr. Y drafferth yw, ychydig iawn o
fanylion sydd ar gael yn hawdd ynghylch y rhywiogaethau hyn, ac nid yw'n
ddigon i gyfieithu e.e. turf-moss heb wybod a ydy o'n tyfu *yn debyg i*
dyweirch ynteu *yn* y tyweirch. Yn yr un modd, ydy river-moss yn tyfu yn
yr afon ynteu ar lan yr afon? Ydy pocket-moss yn golygu ei fod yn
ffurfio pocedi, ynteu ydy o'n fechan iawn (megis "pocket Venus" am ferch
fechan hardd). Mae'n bosibl, meddai Duncan, y bydd yn rhaid cynnig yr
enwau ichi gyda "health warning", fel atebion dros dro nes i'r tim
ddelio a'r mwsoglau i gyd fel y maen nhw newydd ei wneud efo'r ffyngau.
Ann
On 10/08/2016 21:30, Branwen Gwyn wrote:
> Chwilio am gyfieithiad i'r rhywiogaethau canlynol, os gwelwch yn dda:
> Little shaggy-moss
> Straggling pouchwort
> Scarce turf-moss
> Heller's notchwort
> Autumn flapwort
> Fox-tail feather-moss
> River pocket-moss
> Beck pocket-moss
> Hutchin's hollywort
>
> Diolch yn fawr o flaen llaw!
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2016.0.7752 / Virus Database: 4633/12785 - Release Date: 08/10/16
>
>
>
|