Ystyr “balance” yn Saesneg yw beth sy’n weddill ar y cyfrif. Y rheswm iddo gael ei alw’n “balance” yw mai’r ffigwr hwnnw sydd ei angen i gael cydbwysedd rhwng y golofn debyd a’r golofn credyd. Dyna’r unig reswm iddo gael ei alw’n “balance”. Tydi’r gair "balans" ddim yn gwneud unrhyw synnwyr yn y Gymraeg. Pam creu rhywbeth newydd pan mae’r gair “gweddill" wedi hen ennill ei blwyf (am wn i!)?
> On 1 Apr 2016, at 16:55, David Bullock <[log in to unmask]> wrote:
>
> I fynd ar drywydd ychydig yn wahanol...
>
> Dwi'n meddwl yn aml y byddai cydbwysedd yn helpu parau o dermau fel hyn i ennill eu plwyf.
>
> Hynny yw, pam bathu pâr fel 'balans agoriadol' a 'balans wrth gau'
>
> pan allech chi gael:
>
> 'balans wrth agor' a 'balans wrth gau'
> neu
> 'balans agoriadol' a 'balans terfynol'
>
> gan ddefnyddio'r un gystrawen yn y ddau aelod o'r pâr.
>
> #holltiblew?
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
> Sent: 01 Ebrill 2016 16:47
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Opening balance / closing balance
>
> Mae Termau Swyddfa Archwilio Cymru a hen restr Termau Cyllid sydd gennym ni yn rhoi 'balans agoriadol' a 'balans wrth gau'.
>
> Mae'r Porth Termau yn rhoi 'balans agoriadol' a 'balans terfynol'.
>
> Mae rhestr termau Tŷ’r Cwmnïau'n rhoi 'gweddill agoriadol' a 'gweddill cau'.
>
> Claire
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 01 April 2016 16:40
> To: [log in to unmask]
> Subject: Opening balance / closing balance
>
> A fyddai'n iawn imi ddefnyddio "arian a ddygwyd ymlaen / arian a ddygir ymlaen" ynteu a oes 'na rywbeth mwy manwl gywir?
>
> Diolch,
>
> Ann
>
> --
> Ann Corkett
> 5 Heol Belmont
> BANGOR, Gwynedd
> LL57 2HS
>
> (01248) 371987
> [log in to unmask]
>
>
Jeff
Jeff Williams-Jones
mana
Plas Paradwys
Bodorgan
LL62 5PE
07966 256565
|