treiglad caled
dyma ddisgrifiad traddodiadol (anghywir) o’r hyn sy’n digwydd mewn achosion fel, nos da, wythnos diwethaf, glastwr, lle mae presenoldeb ‘s’, yn gwrthsefyll y treiglad meddal disgwyliedig
________________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Rhys Jones <[log in to unmask]>
Sent: 30 November 2015 14:54
To: [log in to unmask]
Subject: Llys–
Shwmae bawb
Nid cwestiwn ynglŷn â therm mo hwn, ond un gramadegol.
Oes unrhyw un yn gwybod pam fod yna dreiglad yn "llysfrawd", "llysfam", "llysfab", "llysferch", "llys-riant" ayyb... ond nad oes treiglad yn "llystad"?
Diolch ymlaen llaw
Rhys
|