Mae Ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera) yn Llyfr Poced Gwasg
Gomer, Pa Flodyn? Dwi'n cael hwn yn llyfr defnyddiol iawn.
Policeman's helmet yw'r enw Saesneg a roddir, ond sonnir ei fod yn
wreiddiol o Fynyddoedd yr Himalaya.
Geraint
On 29/10/2015 21:57, Sian Roberts wrote:
> Fi eto. Mae rhai cannoedd o enghreifftiau o "ffromlys chwarennog" ar y we ond llawer mwy o "Jac y neidiwr".
>
> Mae "Jac y neidiwr" yn swnio'n enw rhyfedd i mi ar blanhigyn. Ydi e'n cael ei ddefnyddio'n naturiol? Mae'n swnio fel pe bai rhywun wedi ceisio safoni "Jac y jwmper".
>
> Pam nad yw "ffromlys chwarennog" yn "Planhigion blodeuol … " sy'n fy mhoeni i. Oes rhywun wedi penderfynu nad yw'n enw dilys?
>
> Mae "ffromlys chwarennog" a "Jac y Neidiwr" yn cael eu henwi yn y National Biodiversity Network Gateway.
>
> Hwyl
>
> Siân
>
|