Cytuno, nid 'gan' ydi'r gair priodil o gwbl.
Geraint
Anfonwyd o'm ffôn-i.
> On 9 Medi 2015, at 09:49 AM, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>
> Mae "agored i niwed" a "bregus" yn cael eu defnyddio'n helaeth ar gyfer "vulnerable" eisoes - efallai y byddai'n well cadw at ryw ffurf ar y rheiny.
>
> Dydw i ddim yn siwr am y "gan" chwaith.
>
> Siân
>
>
>> On 2015 Medi 9, at 8:54 AM, Saunders, Tim wrote:
>>
>> Pwynt pwysig. Weithiau, fe allai fod o ryw gymorth i ddodi rhyw esboniad bach cryno (fel glosau'r hen lawysgrifau) ar gyfer lleygwyr. Ieithwedd dechnegol yw hon, wedi'r cyfan, a rhaid iddi ddilyn canllawiau penodol, ond nid oes dim o'i le mewn taflu ychydig oleuni nawr ac yn y man.
>>
>> Yn iach,
>>
>> Tim
>>
>> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
>> Sent: 09 September 2015 00:10
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Vulnerability to
>>
>> Petawn i'n gweld hynna mewn dogfen byddai'n gwbl annealladwy a byddai'n rhaid imi droi at y Saesneg. Felly na, dydio ddim yn iawn, yn fy marn i.
>>
>> Anfonwyd o'm ffôn-i.
>>
>>> On 7 Medi 2015, at 04:56 AM, Gareth Jones <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> Teitl rhan o adroddiad ydy'r cyd-destun.
>>>
>>> 'Children's vulnerabilty to sexual exploitation'.
>>>
>>> Ym mesur hawliau Plant a Phobl Ifanc Cymru, cyfeirir at 'hyglwyfedd plant gan weithgareddau gwerthu plant'.
>>>
>>> Ydy 'hyglwyfedd gan gamfanteisio'n rhywiol' yn iawn?
>>> Sent from my BlackBerry® wireless device
>>
>> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>>
>> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>>
>>
>>
>> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
>> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|