Cytuno bod angen cysondeb Tim ond nid ar draul ystyr. Mae 'cyfrifoldeb rhiant ffurfiol' yn sicr yn awgrymu mai'r rhiant sy'n ffurfiol ac nid y cyfrifoldeb. Dydw i ddim yn meddwl y dylen ni hyrwyddo cyfieithiadau anghywir a chamarweiniol dim ond am eu bod yn ymddangos mewn dogfen sy'n cael ei hystyried yn swyddogol. Mae dwy egwyddor bwysig yma - cysondeb ein hiaith swyddogol a chywirdeb ein hiaith swyddogol. Dw i'n tueddu i feddwl mai'r cywirdeb sydd bwysicaf.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Saunders, Tim
Anfonwyd: 8 Medi 2015 11:36
At: [log in to unmask]
Pwnc: ATB/RE: formal parental responsibility
Mae'r dadleuon hyn i gyd yn gwbl ddilys. Er hynny, mae bron pob un yn gwahodd yr ychwnegiad ': Trafoder. Ar ben hynny, os am hybu'r Gymraeg fel iaith swyddogol ymarferol, rhaid osgoi ychwanegu at y niwl o amrywiaeth ac ansicrwydd sy'n cymylu gormod o destunau yn yr iaith.
Yn iach,
T
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David Bullock
Sent: 08 September 2015 10:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: formal parental responsibility
Cytuno, Siân. Mae "cyfrifoldeb ffurfiol rhiant" yn well, ond rwy'n credu hefyd fod lot o bobl yn gyndyn o roi'r ansoddair rywle heblaw ar y diwedd.
Rwy'n cofio dod ar draws y peth flynyddoedd yn ôl pan oedd shwt beth â Central Electricity Generating Board, a'r newyddion ac ati yn cyfeirio ato'n aml fel y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog. Ond wedi dechrau cyfieithu dan arweiniad Berwyn yn yr hen Swyddfa Gymreig rwy'n cofio'r cwestiwn yn cael ei ofyn - 'beth sy'n ganolog, y Bwrdd ynteu'r Trydan?'
Y Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan oedd term y Swyddfa Gymreig, wrth gwrs.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 08 Medi 2015 09:35
To: [log in to unmask]
Subject: formal parental responsibility
Mae pedair enghraifft o �cyfrifoldeb rhiant ffurfiol� ar y we ond oni fyddai �cyfrifoldeb ffurfiol rhiant� yn well?
Diolch
Si�n=
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.6125 / Virus Database: 4409/10592 - Release Date: 09/07/15
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|