Yn union - dim ots gen i neb fy ngalw i'n ti ond nid efo fi'n bersonol maen nhw'n siarad ond efo cynulleidfa.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Anfonwyd: 15 Gorffennaf 2015 13:15
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: Term Cymru ar ei newydd wedd
Does gen i ddim problem efo galw unigolion yn 'ti', gan ddilyn hen arfer y Cymry yn y Mabinogi a'r Beibl, cyn i ryw ledneisrwydd ffuantus feddiannu ein harferion ieithyddol, ond pan fo neges wedi hanelu at fwy nag un person, yr ail berson lluosog sy'n gywir, ynde?!
Dwi'n gweld yr holl ddefnydd 'ma o 'ti' mewn pethau i blant a phobl ifanc yn chwithig iawn - DACH CHI'N SIARAD EFO MWY NAG UN OHONYN NHW !!!!!!
Rant drosodd am y dydd.
Geraint
On 15/07/2015 12:48, Saunders, Tim wrote:
> Tybed a fydd Gwlad y Gân yn dilyn yr un trywydd â Norwy ynglŷn â'r fater hon? Hyd y gwelaf (Neu y clwaf, a bod yn fanwl gywir), 'du' yw pob un y dyddiau hyn - hyd yn oed etifedd y goron!
>
> Yn iach,
>
> T
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On
> Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 15 July 2015 12:44
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Term Cymru ar ei newydd wedd
>
> Nid wyf yn hoff iawn o'i ddull o gyfarch y darllenydd fel "ti". Os mai dyna sut mae adran o'r Llywodraeth yn mynd i gyfarch pawb, gell inni ddweud ta-ta wrth y ffurf ffurfiol yn gyfan gwbl!
> A oes 'na unrhyw un wedi tynnu sylw gofalwyr TermCymru at yr holl sylwadau hyn, ynteu a oes 'na rywun o TermCymru yn digwydd bod yn darllen y sylwadau? Wn i ddim at bwy i droi nawr bod Miranda Morton wedi ymadael. Nid oes fawr o bwynt lleisio barn fel ager poeth i'r awyr.
> Ann
>
> On 14/07/2015 15:01, Meinir Thomas wrote:
>> Rhaid dweud, sai'n ei hoffi o gwbl. Mae'n anoddach defnyddio'r Term Cymru newydd. Wi wir yn gobeithio newn nhw newid e nôl!
>>
>> Meinir
>>
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4392/10227 - Release Date:
>> 07/14/15
>>
>>
>>
|