Mae'n anodd dweud heb weld y cyd-destun i gyd, ond oni raid meddwl am y
peth fel petai'r awdur yn ysgrifennu yn Gymraeg, nid chwilio am
gyfieithiadau o eiriau Saesneg, h.y. meddwl am "ddulliau a ddefnyddir" i
son am luosi, nid "geiriau a ddefnyddir". Mae hyn yn digwydd i ryw
raddau wrth i bobl gynnig y pethau y mae eu plant yn eu defnyddio, ond
oni ddylid dweud (gall rhywun arall awgrymu sut) bod modd son am luosi
yn Gymraeg heb ddefnyddio gair am "times" o gwbl. Wrth feddwl, dwyedir -
neu dywedid - six sixes are thirty-six, nid six times six is thirty-six.
(Gyda llaw, "chwe saith" a "pum saith" byddai i'n eu dweud, nid "chwech
saith" ayb.)
Ann
On 02/07/2015 11:46, Sioned Graham-Cameron wrote:
> Trin iaith mathemateg mae o, ac enghreifftiau o eiriau a ddefnyddir wrth sôn am luosi yw "times / lots of ..." ac ati
>
> Wrth gyflwyno'r swm, dwi'n cytuno nad oes angen defnyddio gair penodol ... falla mai dyna pam fedra i ddim meddwl beth fyddai'r gair!
>
>
> On 2 Jul 2015, at 11:40, Megan Tomos wrote:
>
>> Oes angen rhywbeth o gwbl? Chwech saith = pedwardeg dau?
>>
>> Sent from my iPad
>>
>>> On 2 Gorff 2015, at 12:31, Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> Teimlo'n hynod dwp bore ma!
>>>
>>> Mathemateg yw'r testun - beth ddefnyddir am 'times' h.y. 6 times 7?
>>>
>>> Diolch.
>>>
>>> Sioned
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4365/10144 - Release Date: 07/02/15
>
>
>
|