Ar be y cwestiwn ffurfiol/anffurfiol, sy'n ymwneud ag arddull neu chwaeth, mae'r deunydd yma am gael ei ddarllen gan fwy nag un darllenydd, ac felly mae angen y lluosog.
Gobeithio dy fod di i gyd yn cytuno.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 15 Gorffennaf 2015 12:56
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Term Cymru ar ei newydd wedd
Cytuno Ann - dw i'n gwbod mod i'n hen (ac yn hen ffasiwn beryg) ond mae 'na ryw naws blentynnaidd iddo sydd ddim yn gweddu i wefan swyddogol.
-----Neges Wreiddiol/Original Message----- Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Anfonwyd: 15 Gorffennaf 2015 12:44
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Term Cymru ar ei newydd wedd
Nid wyf yn hoff iawn o'i ddull o gyfarch y darllenydd fel "ti". Os mai dyna sut mae adran o'r Llywodraeth yn mynd i gyfarch pawb, gell inni ddweud ta-ta wrth y ffurf ffurfiol yn gyfan gwbl!
A oes 'na unrhyw un wedi tynnu sylw gofalwyr TermCymru at yr holl sylwadau hyn, ynteu a oes 'na rywun o TermCymru yn digwydd bod yn darllen y sylwadau? Wn i ddim at bwy i droi nawr bod Miranda Morton wedi ymadael. Nid oes fawr o bwynt lleisio barn fel ager poeth i'r awyr.
Ann
On 14/07/2015 15:01, Meinir Thomas wrote:
> Rhaid dweud, sai'n ei hoffi o gwbl. Mae'n anoddach defnyddio'r Term Cymru newydd. Wi wir yn gobeithio newn nhw newid e n l!
>
> Meinir
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4392/10227 - Release Date:
> 07/14/15
>
>
>
|