Mae'r rhain wedi llwyddo i osgoi problem y treiglad!
On 2015 Meh 19, at 12:02 PM, Geraint Lovgreen wrote:
> Clyfar!
>
> On 19/06/2015 10:18, Aled Powell wrote:
>> Gofynnais i i ddyn canol oed neithiwr hefyd, gan geisio ei roi mewn ffordd naturiol fel nad oedd cywirdeb iaith ar ei feddwl:
>>
>> Os yw dyn efo pedwar ci a chath ac yn colli un o bob anifail, be sydd ganddo'n weddill?
>>
>> 'Tri ci' oedd yr ateb, yn anffodus.
>>
>> Aled
>> ________________________________________
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen [[log in to unmask]]
>> Sent: 19 June 2015 10:01
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: ATB: Three dogs
>>
>> Dyna oedd fy ymateb i - mae gofyn i rywun ei ddweud yn wahanol iawn i
>> sgwrs naturiol.
>>
>> On 19/06/2015 09:43, Neil Shadrach wrote:
>>> Holais innau rhywun 16 oed neithiwr - "tri chi" oedd yr ateb. Wrth
>>> gwrs mae hynny'n wahanol i sgwrs naturiol.
>>>
>>> Ar 19 Mehefin 2015 am 09:36 , ysgrifennodd Post < [log in to unmask] > :
>>>> Mae gen i fab ym mlwyddyn 7. Neithiwr, gofynnais iddo gyfieithu “three dogs”
>>>> a’r ateb oedd “tri chi”.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Bu’n dysgu am dreiglo ar ôl ‘tri’ a ‘chwech’ yn yr ysgol eleni – a dim sôn o
>>>> osgoi’r treigliad llaes.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>>>> Sent: 18 June 2015 16:53
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Three dogs
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Wnes i flogio am y treiglad tsh > j slawer dydd:
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> https://siantirdu.wordpress.com/2010/04/27/oes-na-jans-am-jainis/
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> On 2015 Meh 18, at 3:06 PM, megan tomos wrote:
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Ia a phob treiglad newydd fel fy nhips/ fy nhiocled a dy jips!
>>>>
>>>> ----Original message----
>>>> From : [log in to unmask]
>>>> Date : 18/06/2015 - 14:05 (GMTDT)
>>>> To : [log in to unmask]
>>>> Subject : ATB/RE: ATB/RE: Three dogs
>>>>
>>>>
>>>> Hir oes i’r treigliad llaes
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of
>>>> Vaughan-Thomas, Paul
>>>> Sent: 18 Mehefin 2015 14:03
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: ATB/RE: Three dogs
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Clywch, clywch Matthew! Cytuno’n llwyr. Mae plant Blwyddyn 8 yn eu
>>>> harddegau, nid yn 4 oed. Pryd yn union y byddan nhw’n barod i ymdopi ag
>>>> erchyllterau’r treigladau tybed?
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
>>>> [auc]
>>>> Sent: 17 June 2015 11:57
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: ATB/RE: Three dogs
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i
>>>> blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’
>>>> yn anodd ei ddeall?
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’
>>>> (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’
>>>> a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8
>>>> hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen
>>>> iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael
>>>> enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu
>>>> defnyddio Cymraeg safonol? Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain
>>>> wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u
>>>> hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r
>>>> union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu
>>>> adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor
>>>> ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r
>>>> plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n
>>>> hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon
>>>> yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn
>>>> gwrth-ddweud hynny?
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws
>>>> Sent: 17 Mehefin 2015 10:32
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: Three dogs
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Diolch bawb.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly
>>>> dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld
>>>> beth fydd barn y cwsmer.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Diolch yn fawr eto
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Rhian
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
>>>> Sent: 17 June 2015 10:21
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: Three dogs
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i
>>>> dreiglo.
>>>>
>>>> Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar -
>>>> "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr.
>>>>
>>>> Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs)
>>>> ac "eich tri chi" (your three).
>>>>
>>>> Geraint
>>>>
>>>> On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote:
>>>>
>>>> Bore da
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Cwestiwn gwirion o bosibl...
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n
>>>> ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes
>>>> os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd –
>>>> ‘tri chi bach’?
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Diolch ymlaen llaw
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Rhian
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> ******************************************************************
>>>> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
>>>> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
>>>> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
>>>> on the following address:
>>>> [log in to unmask]
>>>>
>>>> All communications sent to or from the Council may be subject to recording
>>>> and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>>>>
>>>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
>>>> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
>>>> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
>>>> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
>>>> [log in to unmask]
>>>>
>>>> Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi
>>>> a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
>>>> *******************************************************************
>>>>
>>>> --
>>>>
>>>> Ymwadiad:
>>>>
>>>> Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a
>>>> roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a
>>>> all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen
>>>> i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
>>>>
>>>> Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au)
>>>> y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges
>>>> hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon
>>>> iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi
>>>> yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi
>>>> nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio,
>>>> dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
>>>>
>>>> O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir
>>>> datgelu cynnwys y negest ebost hon.
>>>>
>>>> Disclaimer:
>>>>
>>>> While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information
>>>> and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses
>>>> arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to
>>>> obtain your own professional advice.
>>>>
>>>> The information in this email and any attachments is intended solely for the
>>>> attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended
>>>> recipient, or person responsible for delivering this information to the
>>>> intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the
>>>> intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and
>>>> must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of
>>>> it.
>>>>
>>>> Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000
>>>> the contents of this email may be disclosed.
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>> * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
>>
>> This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for
>> the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not
>> the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination,
>> forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to
>> contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions
>> and other information in this message that do not relate to the official business of
>> Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. ..
>>
>> Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i
>> bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r
>> derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad,
>> gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
>> chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob
>> cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
>> yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad
>> yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.
>>
>> * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
|