Grêt - diolch. Ofni oeddwn i mai cyfieithiad llythrennol gan rywun mor anwybodus â fi oedd "dilynwyr" ond nad oedd yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr go iawn.
"Dilynwyr" amdani felly!
Siân
On 2015 Meh 1, at 11:46 PM, Mary Jones wrote:
> 'Dilynwyr' yw'r unig beth diogel ichi ei ddefnyddio, ddwedwn i, neu fe
> fyddwch yn mynd i'r gors os defnyddiwch 'lloi' neu 'wartheg ifanc'. A chan
> mai 'dilynwyr' mae'r byd amaeth yn ei ddefnyddio fel rheol, pam ceisio
> ailddyfeisio'r olwyn?
> Mary
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 01 June 2015 22:08
> To: [log in to unmask]
> Subject: followers
>
> Sôn am stoc fferm: 200 dairy cows and followers.
>
> Mae Termau Amaeth yn rhoi "dilynwyr" a Termau Amaethyddiaeth a Milfeddygaeth
> yn rhoi "gwartheg ifainc".
>
> Beth fyddai rhywun yn ei ddweud yn naturiol? Lloi?
>
> Diolch
>
> Siân
|