I ailadrodd yr hun a ddywedodd Bruce - a cheisiaf ei gofio, gan ei fod
yn wall y mae o'n ei gywiro yn fy ngwaith innau bron bob tro:
Nid (os derbyniwch yr ymadrodd) "mi wnes i fwynhau fy hun" ond "mi wnes
i fy mwynhau fy hun", felly "yn eu mwynhau eu hunain".
Os nad ydw i wedi'i ddeall o'n iawn, dywedwch.
Ann
On 19/05/2015 09:32, Sian Roberts wrote:
> Wel, wel! Mae "mwynhau fy hunan" yn swnio'n hollol naturiol i mi - ac i'r gŵr sydd â greddf ieithyddol gryfach o lawer na mi!
>
> Rwy'n rhyw deimlo bod angen mwynhau "rhywbeth" - bwyd, drama neu chi'ch hunan.
>
> Y frawddeg oedd gen i yw "Mae pobl wedi bod yn byw, yn gweithio ac yn mwynhau eu hunain yn xxxx ers canrifoedd."
>
> I mi, mae "ac yn mwynhau yn xxx" yn swnio fel pe bai rhywbeth ar goll - a dydi'r ystyr ddim cweit run peth chwaith.
>
> Wnes i ystyried ei newid i "ac yn cael mwynhad yn …"
>
> Diddorol!
>
> Siân
>
>
>
> On 2015 Mai 19, at 6:50 AM, Gareth Jones wrote:
>
>> Dyna oeddwn i'n ei feddwl hefyd. Mae 'mwynhau eich hunan' yn gyfieithiad llythrennol yn fy marn i - os defnyddiwch chi gyfieithiad llythrennol o hynny yn Sbaeneg, mae'n swnio'n erchyll.
>>
>> Sent from my BlackBerry® wireless device
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
>> Date: Tue, 19 May 2015 08:44:14
>> To: <[log in to unmask]>
>> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> <[log in to unmask]>
>> Subject: Re: enjoy yourself
>>
>> Gellid hepgor yr "eich hunan" a jyst dweud "mwynhau".
>>
>> Geraint
>>
>> Anfonwyd o'm ffôn-i.
>>
>>> On 18 Mai 2015, at 01:31 AM, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> Yn ol Bruce: i fod yn "gywir" byddai angen dweud "*eich* mwynhau'ch hun". Cyfieithiad o'r Saesneg ydyw, ac mae cael hwyl / mwynhad / pleser ar gael eisoes, ond byddai'n ofer erbyn hyn ddweud ei fod yn "anghywir".
>>>
>>> Ann
>>>
>>>> On 17/05/2015 09:39, Sian Roberts wrote:
>>>> Ydw i'n deall yn iawn nad yw "mwynhau'ch hunan" yn 'gywir'.
>>>> Dim ond "cael hwyl" a gynigir gan GyrA ond fe allwch chi fwynhau'ch hunan heb gael hwyl sbo.
>>>>
>>>> Siân
>>>>
>>>> -----
>>>> No virus found in this message.
>>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>>> Version: 2015.0.5941 / Virus Database: 4342/9799 - Release Date: 05/17/15
>>>>
>>>>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.5941 / Virus Database: 4342/9816 - Release Date: 05/19/15
>
>
|