Wel, wel! Mae "mwynhau fy hunan" yn swnio'n hollol naturiol i mi - ac i'r gŵr sydd â greddf ieithyddol gryfach o lawer na mi!
Rwy'n rhyw deimlo bod angen mwynhau "rhywbeth" - bwyd, drama neu chi'ch hunan.
Y frawddeg oedd gen i yw "Mae pobl wedi bod yn byw, yn gweithio ac yn mwynhau eu hunain yn xxxx ers canrifoedd."
I mi, mae "ac yn mwynhau yn xxx" yn swnio fel pe bai rhywbeth ar goll - a dydi'r ystyr ddim cweit run peth chwaith.
Wnes i ystyried ei newid i "ac yn cael mwynhad yn …"
Diddorol!
Siân
On 2015 Mai 19, at 6:50 AM, Gareth Jones wrote:
> Dyna oeddwn i'n ei feddwl hefyd. Mae 'mwynhau eich hunan' yn gyfieithiad llythrennol yn fy marn i - os defnyddiwch chi gyfieithiad llythrennol o hynny yn Sbaeneg, mae'n swnio'n erchyll.
>
> Sent from my BlackBerry® wireless device
>
> -----Original Message-----
> From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
> Date: Tue, 19 May 2015 08:44:14
> To: <[log in to unmask]>
> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
> Subject: Re: enjoy yourself
>
> Gellid hepgor yr "eich hunan" a jyst dweud "mwynhau".
>
> Geraint
>
> Anfonwyd o'm ffôn-i.
>
>> On 18 Mai 2015, at 01:31 AM, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Yn ol Bruce: i fod yn "gywir" byddai angen dweud "*eich* mwynhau'ch hun". Cyfieithiad o'r Saesneg ydyw, ac mae cael hwyl / mwynhad / pleser ar gael eisoes, ond byddai'n ofer erbyn hyn ddweud ei fod yn "anghywir".
>>
>> Ann
>>
>>> On 17/05/2015 09:39, Sian Roberts wrote:
>>> Ydw i'n deall yn iawn nad yw "mwynhau'ch hunan" yn 'gywir'.
>>> Dim ond "cael hwyl" a gynigir gan GyrA ond fe allwch chi fwynhau'ch hunan heb gael hwyl sbo.
>>>
>>> Siân
>>>
>>> -----
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2015.0.5941 / Virus Database: 4342/9799 - Release Date: 05/17/15
>>>
>>>
|