Dwi wedi edrych yn ôl ar drafodaeth flaenorol a gafwyd am y ffrwythau bach yma, ond doedd yna ddim cytundeb ar derm Cymraeg amdanyn nhw.
Feddylish i ddilyn patrwm y 'blackberry' a chynnig 'mwyar gleision', ond mae'r rhain eisoes yn bodoli ('dewberries' yn ôl GPC)
Dydyn nhw ddim yr un fath â 'bilberries', sef llus, a'r broblem ydi mai wedi dod drosodd o America maen nhw'n wreiddiol, felly does yna ddim enw Cymraeg arnyn nhw. (Mae llus i'w gweld yn Llyfr Natur Iolo Williams, ond does na'm sôn am 'blueberries').
Mae rhai pobl yn cyfeirio at lus fel 'llus duon', felly fyddai'n syniad gwahaniaethu drwy roi 'llus gleision'?
Neu fathu term newydd fel 'glasaeron'?
Dwi wedi bod yn pendroni am hyn ers sbel, ond mae o newydd godi mewn darn o waith dwi wrthi'n ei gyfieithu, felly mi fyswn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw farn neu gymorth!
Diolch,
Einir
|