Dwi'n ceisio peidio â bathu geiriau os nad oes raid.
Fyddai "gweld" neu "nodi" yn gwneud y tro ar gyfer yr "identify"?
A "gweld", "cydnabod" neu "sylweddoli bod" am y "recognise"?
Dibynnu ar y cyd-destun a pha mor dechnegol ydyw.
Cofion
Siân
On 2015 Mawrth 13, at 9:33 PM, Eurwyn Pierce Jones wrote:
> Hanfod-adnabod agweddau negyddol a chadarnhaol o fewn y grŵp teuluol
>
> Bydd y plant yn nôd-adnabod y gwahanol safleoedd perthynol o fewn teulu
>
> Eurwyn
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Elen Hughes
> Sent: 13 March 2015 19:19
> To: [log in to unmask]
> Subject: Identify / recognise
>
> Noswaith dda,
>
> Oes gan rywun unrhyw 'tips' ar sut i wahaniaethu rhwng identify a recognise yn y Saesneg a pha reolau fyddwch chi'n eu defnyddio ar gyfer eu cyfieithu nhw?
>
> Mae gen i frawddegau megis -
>
> "To identify negative amd positive aspects within the family group"
> A
> "The children will recognise the different positions within a family"
>
> Diolch o galon!
|