Mae 'na 'transfer deed' hefyd sy'n wahanol i 'conveyance' am wn i , felly fe allai sefyllfa godi lle byddai angen trawsgludo a throsglwyddo. Ac alltudio am anfon pobl o'u gwlad?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Nia Roberts
Sent: 11 Mawrth 2015 15:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: conveyancing
On 11/03/2015 14:05, megan tomos wrote:
> Roeddwn yn meddwl mai dyna'r gair am "transportation" sef y gosb drwy anfon rhywun yn gaeth i wlad ymhell dros y môr.
> ----Original message----
> >From : [log in to unmask]
> Date : 11/03/2015 - 13:04 (GMTST)
> To : [log in to unmask]
> Subject : Re: conveyancing
>
> Trawsgludo rydyn ni'n defnyddio yn y Gofrestrfa Tir
>
> Sent from my iPhone
>
>> On 11 Mawrth 2015, at 17:16, Alison Reed <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> trawsgludo
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>> Nia Roberts
>> Sent: 11 March 2015 11:06
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: conveyancing
>>
>> Beth yw'r term gorau ar gyfer hwn o ran prynu a gwerthu tai etc? Porth Termau'n rhoi 'trawsgludo' er bod GyrA yn cynnig 'trosglwyddo' hefyd o ran eiddo. Hwnnw'n swnio'n fwy naturiol i mi. P'un sy'n cael ei ddefnyddio'n arferol?
>> Diolch
A finne Megan! A dyna pam on i'n holi, ond dwi wedi gorfod derbyn mai dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio ym maes prynu a gwerthu tir a thai er mai proses o 'drosglwyddo' yw hynny mewn gwirionedd. Ta waeth!
Nia
|