Mae'n siwr fod yr ateb i'r cwestiwn i'w gael gan Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones fel golygyddion GyA, gan eu bod nhw wedi gorfod penderfynu ar y cychwyn ar y 'canllawiau' orgraff i'w defnyddio. Bu'n rhaid i olygyddion Geiriadur y Brifysgol hefyd wneud yr un fath, gan ddod i benderfyniadau gwahanol, mae'n amlwg. I rai o'r golygyddion y ffaith mai gair tramor yw'r ail elfen oedd yn penderfynu na threiglid elfennau fel 'data' yn 'metadata'.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Emily Hammett
Sent: 17 February 2015 13:02
To: [log in to unmask]
Subject: Treiglo gyda 'meta'
O'n i wedi cymryd bod angen treiglo, e.e. metawybyddiaeth a metaddadansoddi (statws 1 ar Term Cymru), ond 'metadata' sy ar Term CYmru (er taw status 5 sydd gan y term hwnnw).
Ydw i'n colli rhywbeth gramadegol sylfaenol fan hyn? Sori os ydw i! Ife achos taw gair Ladin yw data?
Fi'n sylwi taw'r arferiad yw treiglo a'r ol 'tele' (e.e. telefeddygaeth, teleofal).
Diolch!
Emily
|