Dwi ddim yn gweld problem efo sôn am foronen a ffon yn Gymraeg - nid
idiom Saesneg ydi o yn gymaint â darlun ffeithiol o sut mae cael mul i
symud. Dwi'n siwr fy mod i wedi clywed yr ymadrodd yn Gymraeg fwy nag
unwaith.
Geraint
On 02/02/2015 16:57, Claire Richards wrote:
> Mae "You catch more flies with honey than with vinegar" yn ymadrodd Saesneg eitha cyfarwydd. O'r Unol Daleithiau yn wreiddiol, o bosibl? Mae yn y "McGraw-Hill Dictionary of American Idioms and Phrasal Verbs", yn sicr.
>
> Ond mae'r foronen 'ma'n dipyn o bos.
>
> Claire
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 02 February 2015 16:53
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Better a carrot than a stick
>
> Cofiaf, pan oeddwn i'n ddysgu Cymraeg, rhyw hen ffermwr yn dweud wrthyf yn Saesneg "You catch more flies with honey than with vinegar". Synnwn i ddim petai o'n cyfieithu dywediad o'r Gymraeg, ond 'rwy'n amau, o ran bwyta'n iach, y byddai finegr (seidr) yn cael mwy o glod na mel, felly nid yw'r dywediad yn mynd i fod yn fawr o help ichi hyd yn oed os gall rhywun ddod o hyd iddo.
>
> Ann
> On 02/02/2015 16:34, Gareth Jones wrote:
>> Tybed a oes unrhyw un ohonoch yn gallu awgrymu idiom yn Gymraeg sy'n cyfle'r un neges? Cyfeiriad at raglen bwyta'n iach sydd yma:
>>
>> (Enw'r rhaglen) is a carrot not a stick.
>>
>> Sent from my BlackBerry(r) wireless device
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.5645 / Virus Database: 4273/9043 - Release Date:
>> 02/02/15
|