Nid pawb sy'n cael pleser gan foron mae'n debyg.
On 02/02/2015 17:12, Gareth Jones wrote:
> Dyna oeddwn i'n ei feddwl, ond mae'r cleient yn anfodlon. Beth am rywbeth fel 'pleser, nid poen, yw (enw'r rhaglen)'.
> Sent from my BlackBerry® wireless device
>
> -----Original Message-----
> From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
> Date: Mon, 2 Feb 2015 17:10:27
> To: <[log in to unmask]>
> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
> Subject: Re: Better a carrot than a stick
>
> Dwi ddim yn gweld problem efo sôn am foronen a ffon yn Gymraeg - nid
> idiom Saesneg ydi o yn gymaint â darlun ffeithiol o sut mae cael mul i
> symud. Dwi'n siwr fy mod i wedi clywed yr ymadrodd yn Gymraeg fwy nag
> unwaith.
>
> Geraint
>
> On 02/02/2015 16:57, Claire Richards wrote:
>> Mae "You catch more flies with honey than with vinegar" yn ymadrodd Saesneg eitha cyfarwydd. O'r Unol Daleithiau yn wreiddiol, o bosibl? Mae yn y "McGraw-Hill Dictionary of American Idioms and Phrasal Verbs", yn sicr.
>>
>> Ond mae'r foronen 'ma'n dipyn o bos.
>>
>> Claire
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
>> Sent: 02 February 2015 16:53
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Better a carrot than a stick
>>
>> Cofiaf, pan oeddwn i'n ddysgu Cymraeg, rhyw hen ffermwr yn dweud wrthyf yn Saesneg "You catch more flies with honey than with vinegar". Synnwn i ddim petai o'n cyfieithu dywediad o'r Gymraeg, ond 'rwy'n amau, o ran bwyta'n iach, y byddai finegr (seidr) yn cael mwy o glod na mel, felly nid yw'r dywediad yn mynd i fod yn fawr o help ichi hyd yn oed os gall rhywun ddod o hyd iddo.
>>
>> Ann
>> On 02/02/2015 16:34, Gareth Jones wrote:
>>> Tybed a oes unrhyw un ohonoch yn gallu awgrymu idiom yn Gymraeg sy'n cyfle'r un neges? Cyfeiriad at raglen bwyta'n iach sydd yma:
>>>
>>> (Enw'r rhaglen) is a carrot not a stick.
>>>
>>> Sent from my BlackBerry(r) wireless device
>>>
>>> -----
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2015.0.5645 / Virus Database: 4273/9043 - Release Date:
>>> 02/02/15
|