Mae'r canllawiau'n ddigon clir dwi'n meddwl o ran Enwau-lleoedd ac Enwau Tai
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 22 Ionawr 2015 00:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Enw ty
Mae enwau lleoedd yn fwy dealladwy hefo cysylltnod ynddyn nhw. O na, tudyn nhw ddim...
http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/wales/11346881/Villagers-dash-hopes-of-a-helpful-hyphen-to-tackle-Welsh-tongue-twisters.html
Nid oes rheol ar enwau tai: http://farm1.static.flickr.com/49/106434355_946c7bd9ea_m.jpg
Dafydd
On Wed, 21 Jan 2015 18:31:12 +0000, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
>A dyna ateb fy nghwestiwn - yn rhannol beth bynnag.
>
>Siân
>On 2015 Ion 21, at 6:18 PM, Carolyn Iorwerth wrote:
>
>> A fi. Meddwl am yr enw ar lechen ydw i a gweld y dashys yn or ffyslyd
>>
>>
>>
>> On 21 Jan 2015, at 17:23, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>>
>>> Sôn am enwau lleoedd yn benodol mae'r llyfr Enwau Lleoedd, nid enwau tai (mae'r cliw yn yr enw!).
>>>
>>> Mae Pant y D^wr yn fwy addas ar gyfer enw t^y, faswn i'n meddwl.
>>>
>>> Geraint
>>>
>>> On 21/01/2015 16:46, Felicity Roberts [afr] wrote:
>>>> Ydy. Dw i’n meddwl mai dyna fyddai’r llyfr Enwau Lleoedd ( A Gazeteer of Welsh Place Names ) yn ei ddweud. Pan fo’r ail elfen yn enw cyffredin yna llythyren fach sydd yn briodol meddir yno. Argymhellir y patrwm gyda chysylltnodau yno hefyd gyda’r fannod yn y canol, a’r elfen olaf yn unsill.
>>>> Felicity
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
>>>> Of Sian Roberts
>>>> Sent: Wednesday, January 21, 2015 4:30 PM
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Re: Enw ty
>>>>
>>>> Ond mae Pant-y-dŵr yn bosibilrwydd hefyd, ydi?
>>>>
>>>> Siân
>>>> On 2015 Ion 21, at 4:10 PM, Carolyn Iorwerth wrote:
>>>>
>>>>
>>>> Byddwn i’n tueddu i roi Pant y Dŵr.
>>>> Carolyn
>>>>
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
>>>> Of Rhidian Evans
>>>> Sent: 21 Ionawr 2015 16:03
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: Enw ty
>>>>
>>>> Prynhawn da
>>>>
>>>> Cwestiwn nad yw’n ymwneud â chyfieithu’n uniongyrchol ond wedi cael cais am gyngor gan deulu sydd yn awyddus i enwi eu cartref newydd yn “Pant y dwr”. Sut fyddech chi’n ysgrifennu’r enw? Ai fel Pant y dwr, Pantydwr neu Pant y Dwr? Tueddwn i’w ysgrifennu ar wahan ond beth yw’r arferiad o ran roi ‘D’ fawr i dwr fel yn yr enghraifft yma?
>>>>
>>>> Diolch yn fawr,
>>>>
>>>> Rhidian
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> Rhidian Evans
>>>> Prif Swyddog
>>>> Menter Iaith Sir Benfro,
>>>> Ty'r Ysgol, Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH. Ffôn:
>>>> 01239 831129 Canolfan Ddysgu Gymunedol, Heol Dyfed, Abergwaun, SA65
>>>> 9DT. Ffôn: 01348 873700
>>>> E-bost: [log in to unmask]
>>>> Symudol: 07805 151291
>>>>
>>>>
>>>
>
>
--
Ymwadiad:
Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
Disclaimer:
While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.
The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.
Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.
|