Grr! 'Sdim ots - 'dw i ddim yn cofio enw'r cwmni, os soniwyd amdano, a
'does gennyf ddim syniad beth yw ei fusnes.
'Rwy'n cael fy ngwylltio bob nos gan yr hysbysebion a'taswn i'n athrawes
- ydw i wedi dweud hyn o'r blaen? - byddwn i'n eu defnyddio i ddysgu
rhesymeg i'r plant a'u hannog i amau'r fath rwsth ag y maent yn eu hawlio.
Ann
On 15/12/2014 12:47, Geraint Lovgreen wrote:
> Yn peri trafodaeth - ac yn cael mwy a mwy o sylw i'r cwmni sy'n hysbysebu!
>
>
> Simples!
>
> Geraint
>
> Anfonwyd o'm ffôn ar y lôn
>
>> On 15 Rhag 2014, at 11:39 AM, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Swnio'n erchyll imi - ond dyna fo, wedi peri trafodaeth.
>>
>> 'Rwy'n synnu mor aml mae cwmniau hysbysebu sydd, fel y dywedwch chi, yn ennill arian da, yn dangos eu hanwybodaeth o reolau gramadeg, fel arfer yn anfwriadol, am a wn i, hyd yn oed os yw'r enghraifft hon yn fwriadol.
>>
>> A fyddai 'gwynfyd' yn ffitio'r ystyr 'tasai rhywun yn cael defnyddio rhywbeth call?
>>
>> Ann
>>> On 15/12/2014 11:21, Sian Roberts wrote:
>>> Rwy'n llawn cydymdeimlad â'r cyfieithydd a gafodd y dasg o gyfieithu slogan rightmove "find your happy".
>>>
>>> Roeddwn wedi clywed llais Aled Samuel yn dweud "canfod eich hapus" ac yn methu deall beth roedd yn ceisio'i gyfleu ond heb weld y geiriau Saesneg ar y sgrin.
>>>
>>> Wedi holi ar twitter, mae'n debyg bod y cwmni am ddefnyddio geiriad od i dynnu sylw at eu hysbyseb ac ennyn trafodaeth a'u bod am ddefnyddio "happy" i gyfleu "y lle yr ydych yn hapus ynddo".
>>>
>>> Mae'n debyg bod pobl wedi cwyno am y Saesneg a'r Gymraeg a bod trafodaeth wedi'i chynnal ar Taro'r Post!
>>>
>>> Y cwestiwn yw, sut mae cyfieithwyr i fod i ymateb pan fydd y testun gwreiddiol yn fwriadol "od"?
>>>
>>> Mae'n rhaid i'r cyfieithiad fod yn "od" hefyd, am wn i.
>>>
>>> Yn yr achos hwn, mae'n siwr bod rhywun wedi cael miloedd o bunnau am benderfynu y byddai'n syniad da defnyddio "hapus" fel enw i gyfleu "y man delfrydol i chi"/"y man lle byddwch yn hapus" felly mae'n siwr y byddai'n well cadw hynny yn y Gymraeg.
>>>
>>> Y cwestiwn wedyn yw, a ddylid cyfieithu'n llythrennol - Canfod eich hapus - posibiliadau eraill fyddai Canfyddwch eich hapus / Ffeindiwch eich hapus / Chwiliwch am eich hapus / Dewch o hyd i'ch hapus - ynteu aralleirio? Mae hwn yn anodd am fod y math yma o orchmynnol a'r gair "find" yn anodd eu cyfieithu!
>>>
>>> Gobeithio wir nad ydi rightmove yn dechrau ffasiwn!
>>>
>>> Siân
>>>
>>>
>>> -----
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4235/8740 - Release Date: 12/15/14
>>>
>>>
>>>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4235/8740 - Release Date: 12/15/14
>
>
>
|