Dwi ddim yn siŵr ydi Dydd Llun Lloerig yn awgrymu unrhyw gysylltiad â gwerthu stwff ar lein, sef ergyd y gair "Cyber".
Jyst i ddweud, hefyd, bod yr un nifer o nodau yn "Llun Prynu Ar Lein" ac sydd yn "Dydd Llun Lloerig".
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 27 November 2014 16:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyber Monday
W, wi'n hoffi Dydd Llun Lloerig (mae'n ffitio'r neges Twitter hefyd!!)! Rhaid cyfaddef, doeddwn i erioed wedi clywed am 'Cyber Monday' tan i'r gwaith hwn gyrraedd heddiw (gwaith sy'n ymwneud ag ymgyrch genedlaethol mae'r heddlu'n cefnogi), a does dim cymaint â hynny ers imi glywed am 'Black Friday', a dim ond blwyddyn neu ddwy ers dod i wybod am y 2 'Black Friday' gwahanol - un America fory, ac un Prydain ar y dydd Gwener olaf cyn Dydd Nadolig.
Meinir
|