Diolch! Dyna wnaf i felly. Wna i Wglo'r sillafiad Cymraeg sydd yn y testun. Os nad yw' n cynnig dim, fe wna i ddyfalu beth yw'r sillafiad Saesneg, Gwglo hwnne a gweld a yw'r Gymraeg yn ei gyfleu. Bosib bod llais yn dweud yr enwau ar y we yn rhywle.
Mae'r ffaith mai Tsaicofsci sy yn y proflenni yn gwneud i mi amau'r gweddill.
Diolch yn fawr
------------------------------
On Fri, Oct 10, 2014 10:36 PM BST [log in to unmask] wrote:
>Dyma bolisi Bruce ynghylch geiriau o ieithoedd tramor:
>
>os oedd y gair yn yr wyddor Ladin yn wreiddiol, dylid cymryd bod siaradwyr
>cynhenid a hawl i ddewis sillafiad eu hiaith eu hunain;
>oes oedd y gair mewn iaith a^ gwyddor arall, e.e. Groeg ac ieithoedd megis
>Rwsieg, sy’n defnyddio’r wyddor Gyrilig, ac Arabeg a dim ond wedi’i
>drawslythrennu i’r wyddor Ladin, yna mae gan y Cymro gymaint o hawl i’w
>drawslythrennu yn ol synau’r Gymraeg ag sydd gan y Sais i’w drawslythrennu
>yn ol synau’r Saesneg.
>
>Mae’n fwy cymhleth na hynny o ran rhai ieithoedd, megis Mandarin, Siapaneg
>ac ieithoedd Asiaidd eraill (‘rwy’n bwriadu stopio yn fan hyn, er bod Bruce
>yn ymddangos yn barod i arddweud darlith ar y pwnc).
>
>Awgryma Bruce “Tsiaicofsci”, a gwelaf mai hwnnw a ddefnyddir yn achos yr
>opera 'ONIEGIN – Gaeaf Gobeithion’ sydd wedi bod ar daith yn ddiweddar.
>
>Cofion,
>
>Ann
>
>
>Original email:
>-----------------
>From: Sian Roberts [log in to unmask]
>Date: Fri, 10 Oct 2014 19:50:33 +0100
>To: [log in to unmask]
>Subject: Tchaikovsky
>
>
>Helo
>Dim llyfrau gen i.
>
>Beth yw'r polisi ar enwau fel Tchaikovsky?
>
>Diolch
>
>Sià n
>
>
>--------------------------------------------------------------------
>mail2web.com - Microsoft Exchange solutions from a leading provider -
>http://link.mail2web.com/Business/Exchange
|