Sori, dreies i ateb hwn neithiwr ond mae'n amlwg nad aeth y neges drwodd.
Mae "hirgolledig" a "hirgoll" yn swnio'n farddonllyd braidd i mi.
Mae'r gair "long-lost" yn cael ei ddefnyddio'n eitha aml yn Saesneg a dydi rhywun ddim yn meddwl llawer amdano.
Byddai "hirgolledig"/"hirgoll" yn air dierth yn Gymraeg a byddai pobl yn meddwl mwy am ei ystyr.
Hyd y gwela i yma, dydi'r elfen "long" ddim yn bwysig - y ffaith eu bod nhw wedi colli cysylltiad sy'n bwysig, sdim ots ers pryd.
Felly, yn fy marn i, byddai "coll" yn ddigon ac yn gliriach yn y Gymraeg.
Siân
|