Problem fach, efallai - mae "gweinyddes" yn cael ei ddefnyddio am "nyrs". Dim yn aml, erbyn hyn, chwaith.
Sian
------------------------------
On Fri, Oct 10, 2014 3:05 PM BST Sioned Graham-Cameron wrote:
>Roeddwn inna wrthi'n gwglo rwan, a dyna welais i hefyd. Os nad yw 'gwesteiwraig' wedi ennill ei blwyf yn ehangach, dwi'n meddwl y defnyddiaf 'gweinyddes'.
>
>Diolch, bawb.
>
>Sioned
>
>
>On 10 Oct 2014, at 14:54, Claire Richards wrote:
>
>> Dwy enghraifft dwi’n gallu eu gweld o ‘gwesteiwraig’ ar y we yn y cyswllt hwn.
>>
>> Byddwn i’n ei chael yn anodd iawn ynganu’r gair, rhaid cyfaddef. Mae’n dipyn o lond ceg. Byddai ‘gweinyddes’ yn llawer haws.
>>
>> Claire
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
>> Sent: 10 October 2014 14:44
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Ward hostess
>>
>> Ah - dyna sy'n cael ei ddefnyddio gan y GIG felly; efallai y dylwn ddefnyddio hynny felly, er rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n hoffi'r gair rhyw lawer (wn i ddim pam!).
>>
>> Roeddwn wedi gweld 'gwesteiwraig' am hostess yn gyffredinol, ond mae 'gweinyddes' yn cyfleu'r peth y well yn dydi, yng nghyd-destun ward ysbyty...
>>
>> Diolch, Andrea.
>>
>> Sioned
>>
>> On 10 Oct 2014, at 14:32, Andrea Davies wrote:
>>
>>
>> Beth am wneud rhywbeth efo “gwesteiwraig”? “Gwesteiwraig y ward”, ayb?.....
>>
>>
>> <image001.jpg>
>>
>>
>> (http://www.google.co.uk/url?sa=t&rct=j&q=&esrc=s&source=web&cd=2&ved=0CCoQFjAB&url=http%3A%2F%2Fwww.npsa.nhs.uk%2FEasysiteWeb%2Fgetresource.axd%3FAssetID%3D18744%26type%3DFull%26servicetype%3DAttachment&ei=4d43VP6pA87kaK7-gYgC&usg=AFQjCNFcwT9VlAyNDTqSnT0kDL5-D-dH9g&sig2=ny2hZIYsMPKusY2EzpMIZA)
>>
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
>> Sent: 10 October 2014 14:16
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Ward hostess
>>
>> Pnawn da bawb
>>
>> Y cyd-destun yw iechyd / wardiau ysbyty. Disgrifiad o'r swydd dan sylw oddi ar y we:
>>
>> What does your job entail?: Being there for the patients. I serve the tea, coffee and meals to the patients. I help patients fill in their menu if they need it and collect the meals from the kitchen, ensuring I have the right amount meals and chasing up any missing meals. I also ensure that all the patients’ water jugs are kept refreshed.
>>
>>
>>
>> Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth addas. Rwyf wedi chwilio ar wefannau dau Fwrdd Iechyd ond heb gael hyd i unrhyw derm swyddogol.
>>
>>
>>
>> Unrhyw syniad gan unrhyw un?
>>
>>
>>
>> Diolch ymlaen llaw
>> Sioned
>>
>>
>>
>
|