O ran geirfa yn y maes, yr unig le dwi wedi defnyddio oddi allan i Term
Cymru/Porth Termau/Geiriadur yr Academi ayyb., ydi Rhestr Termau
Harddwch a Thrin Gwallt ar wefan Sgiliaith, ond mae'n bell o fod yn
gynhwysfawr gan nad oes fawr o 'waith' yn y maes hwn wedi'i wneud, mae'n
siwr!
Dyrys!
On 19/09/2014 10:08, Sian Roberts wrote:
> Plethen y fôr-forwyn ddylai hwnna fod, ie?
> Dydi "plethen y forwyn" ddim yn golygu dim byd. Go brin y byddai gan forynion fish-tail plaits!
> Y broblem â "plethen y fôr-forwyn" yw nad oes gan fôr-forwynion blethi.
> Mae "plethen cynffon y fôr-forwyn" yn mynd braidd yn hir.
> Ond mae "plethen cynffon pysgodyn" yn swnio'n ych-a-fi braidd ond mae'r ystyr yn glir!
>
> Dim ateb, sori! Oes 'na eirfa yn y maes?
>
> Siân
>
>
>
>
> On 2014 Medi 19, at 9:39 AM, Melanie Davies wrote:
>
>> Hoffi Plethen y Forwyn. Beth am 'rhes blethi' am cornrows?
>>
>> Melanie
>>
>> -----Original Message----- From: Dafydd Timothy
>> Sent: Thursday, September 18, 2014 4:49 PM
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: fishtail plait
>>
>> Henffych chwychwi ferched (a dynion) gwalltiau hir(ion)!
>>
>> Cyd-destun ydi cwrs Trin gwallt...eto...
>>
>> Be wnawn ni roi fel 'fishtail plait' yn Gymraeg?
>> Mae Plethen y Forwyn i'w glywed yn reit Gymreig, ond ydi 'mermaid plait'
>> cweit yr un peth â 'fishtail plait' ydi'r cwestiwn mawr?!
>> Neu ydi Plethen Cynffon Sgodyn yn mynd i ddenu'r heidiau(heigiau) i'w
>> ganlyn?!
>>
>> Wedi bod yn Gwglo a dal i fod yn ansicr...
>>
>> Hefyd dull arall:
>> 'cornrow'... fase 'rhes yd' neu 'rhes rawn' yn iawn?
>>
>> Diolch,
>> Dafydd
|