Diolch eto... cafodd y gwaith ei ddychwelyd ddoe, felly roedd yn rhaid
imi wneud penderfyniadau...
Fe es i am 'plethen ýd' am 'cornrow' a 'plethen saethben' am 'fishtail
plait' yn y diwedd... er mod i'n hoffi plethen y forwyn fy hun... tro
nesa efallai!
On 19/09/2014 09:39, Melanie Davies wrote:
> Hoffi Plethen y Forwyn. Beth am 'rhes blethi' am cornrows?
>
> Melanie
>
> -----Original Message----- From: Dafydd Timothy
> Sent: Thursday, September 18, 2014 4:49 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: fishtail plait
>
> Henffych chwychwi ferched (a dynion) gwalltiau hir(ion)!
>
> Cyd-destun ydi cwrs Trin gwallt...eto...
>
> Be wnawn ni roi fel 'fishtail plait' yn Gymraeg?
> Mae Plethen y Forwyn i'w glywed yn reit Gymreig, ond ydi 'mermaid plait'
> cweit yr un peth â 'fishtail plait' ydi'r cwestiwn mawr?!
> Neu ydi Plethen Cynffon Sgodyn yn mynd i ddenu'r heidiau(heigiau) i'w
> ganlyn?!
>
> Wedi bod yn Gwglo a dal i fod yn ansicr...
>
> Hefyd dull arall:
> 'cornrow'... fase 'rhes yd' neu 'rhes rawn' yn iawn?
>
> Diolch,
> Dafydd
|