Pnawn da!
Y cyd-destun ydi cwrs Trin Gwallt a Harddwch... a delio â gwallt math
Affricanaidd naturiol...
Mae sôn am 'plaiting' a 'braiding' hefyd mewn rhannau eraill o'r cwrs,
felly, mae'n anodd defnyddio 'plethu' i gyfleu 'twist(ing)'.
Dwi wedi defnyddio 'torchi' (a lapio) hyd yn hyn, ond tybed a oes cynnig
gwell i gyfleu'r dechneg...?
e.e. cordeddu / plygu / troelli / troi / clymu(er bod 'knot/knotting'
hefyd yn bresennol mewn rhan arall) .
Mae hwn braidd yn gymhleth, ond dwi am ei wneud mor syml â phosib!
Y drafferth ydi bod rhaid cynnwys gair am 'twist', sef yr enw, yn
ogystal â'r ferf 'twist' a 'twisting' !!!
e.e. Bantu knots / comb twists / flat twist / twist out... twist and
shout(jôc oedd y dwytha!)
Help!
Diolch,
Dafydd
|