Fel arfer 'rwy'n cael gan Delyth ganiatad i son am y ffair, felly, er
nad ydw i wedi clywed ganddi, dyma'r manylion:
Ffair Lyfrau Porthaethwy, Dydd Sadwrn 27 Medi, 10-4
Ysgol David Hughes, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, LL59 5SS
Dyma bumed ffair Cymdeithas Bob Owen ym Mhorthaethwy a bydd rhyw hanner
cant o fyrddau. Ceir llyfrau Cymraeg a Saesneg, hen a newydd, nwyddau
sain, printiau, cardiau post a mân greiriau. Bydd rhwymwr llyfrau yno yn
dangos sut mae’n gwneud ei waith ac bydd stondin yn gwerthu nwyddau
rhwymo, trwsio a glanhau llyfrau. Os ydych chi'n chwilio am lyfrau
arbennig, gallaf anfon at y stondinwyr i gyd a gofyn iddynt ddod a chopiau.
Mae digon o le parcio a bydd modd cael ‘paned. Mae’r safle ar ddwy lefel
- gellir dod a chadair olwyn trwy'r prif ddrws, ond rhaid mynd i ochr yr
adeilad i gyrraedd y brif neuadd. Bydd arwyddion ar gyfer y ffair, sydd
yn yr ysgol uwchradd ar y chwith, ar y rhiw o Bont y Borth tuag at
Amlwch a Benllech [B5420 (A5025)].
Mynediad £1. Manylion: 01248 371987; [log in to unmask]
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi rannu'r neges hon a chyfeillion yn y
Gogledd.
Llawer o ddiolch,
Ann
|