Gyda llaw, i'r rhai sydd a diddordeb, 'rwyf wrthi'n cyfieithu llyfr ar
bensaerniaeth yr oesoedd canol - HYNOD o ddiddorol (neu ddiflas, yn ol
eich diddordebau!). 'Rwy'n cael llawer o help gan Bruce ac yn adeiladu
ar sail gwaith da Berwyn Prys Jones, sydd wedi gwneud llawer o gyfieithu
yn y maes. 'Rwyf wedi gorfod ymchwilio llawer o dermau ynghylch
adeiladu, arferion priodas ac arferion dal tir, a diolch BYTH bod
Geiriadur Prifysgol Cymru wedi bod ar gael i'w chwilio ar lein. Gan fod
rhai o'r awdurdodau yn y maes yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr mewn
rhai achosion, 'rwyf weithiau'n gorfod ymgynghori a'r cwsmer ac eraill a
phenderfynu pa derm i'w ddewis. Byddai'n dda gennyf glywed gan eraill
gyda phrofiad yn y maes - er bod y prosiect yn cyrraedd y diwedd - ac os
bydd rhywun arall yn chwilio am y fath dermau gwnaf fy ngorau i helpu
(efallai pan fydd y panig presennol drosod!). Gyda chydsyniad y cwsmer,
gobeithiaf gynhyrchu rhestr o dermau ar ddiwedd y gwaith a fydd yn help
i eraill.
Ann
|