Gan ategu beth mae Ann yn ei ddweud, cofiwch yr un gwahaniaeth pwysig rhwng geiriaduron disgrifiadol megis Geiriadur yr Academi a Geiriadur prifysgol Cymru, sy'n disgrifio'r iaith yn ei holl ogoniant, ac felly yn rhoi medru rhoi dewis helaeth o dermau ac idiomau i chi, a geiriaduron termau rhagnodol fel y rhai a geir yn Y Porth Termau Cenedlaethol a chan TermCymru, lle mae'r termau wedi bod drwy broses safoni a lle nad oes gan y cyfieithydd ddewis ond defnyddio'r termau sy'n cael eu rhagnodi yno.
Mae'r dewis yn ddibynnol ar y cwsmer - mae cyfieithwyr sy'n gwneud gwaith i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn gorfod defnyddio TermCymru - neu fyddan nhw ddim yn cael eu talu. Mae cyfieithwyr sy'n gwneud gwaith i Adran addysg y Llywodraeth a'r drefn arholiadau ysgolion yn gorfod defnyddio Y Termiadur Addysg (sydd yn y Porth Termau), a'r un modd mae darlithwyr a myfyrwyr y Coleg Cymraeg i ddefnyddio'r Termau Addysg Uwch (unwaith eto i gael trwy'r Porth). Mae rhai cyrff ac asiantaethau eraill yn rhoi arweiniad i'w cyfieithwyr ar ba ffynonellau sy'n awdurdodol ac y dylent eu dilyn.
Mae'n faes cymhleth felly, diolch i Ann dynnu ein sylw unwaith eto at rai canllawiau,
Delyth
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 28 August 2014 12:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Arfer Da
Nid wyf yn ceisio bod yn bersonol, dim ond yn defnyddio'r cyfle i
bwysleisio rhywbeth sydd wedi fy nharo i - ac eraill, mi wn - sawl tro
Oni ddylen ni rhyw fath o restr dicio yn ein pennau:
Cyn anfon at W-T-C ydw i:
wedi edrych yn Geiriadur yr Academi?
wedi edrych yn TermCymru?
wedi edrych yn Geiriadur Prifysgol Cymru, os bydd hynny'n berthnasol, ac
mewn unrhyw eirfaoedd perthnasol sydd gennyf?
wedi chwilio ar y We am ddiffiniad o'r Saesneg?
wedi disgrifio yn fy neges beth yw cyd-destun y term (h.y. beth yw'r
maes a beth yw'r frawddeg), ei ystyr cyhyd ag y gallaf ei ddarganfod,
unrhyw dermau Cymraeg 'rwyf wedi cael hyd iddynt eisoes a pham nad wyf
yn fodlon arnyn nhw?
wedi dweud a ydw i'n chwilio am awgrymiadau ar gyfer term newydd ynteu
am y term 'safonol' yn y maes?
Mi wn fod pobl weithiau dan bwysau mawr, neu heb fod a'u llyfrau
cyfeiriadol gyda nhw, ac mae eraill yn mynd i ddeall hynny os cant
eglurhad, ond byddai camau fel hyn yn arfer da i anelu ati.
Ann
Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.
|