Swydd Wag: Swyddog Prosiect Cynefin (Gogledd Cymru)
Graddfa: GO6 £23,188 - £26,539 pro rata 15 awr yr wythnos
Cyfnod: Contract tymor penodol am 22 mis
Dyddiad Cau: Hanner Dydd 27/08/2014
Crynodeb Swydd:
Mae Cynefin yn brosiect a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i
ddigido Mapiau Degwm Cymru er mwyn eu gwneud yn hygyrch o bell. Ochr yn
ochr â hyn, bydd yna nifer o brosiectau lleol sy'n adlewyrchu ac yn
cefnogi themâu mapio hanesyddol a hunaniaeth leol, a fydd yn cael eu
cynnal gan wirfoddolwyr.
Mae angen Swyddog Prosiect i gefnogi prosiectau yn Nwygyfylchi a
Llansannan. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb mewn hanes a
phrofiad o weithio gyda grwpiau gwirfoddol a phlant ysgol. Bydd gan yr
ymgeisydd llwyddiannus hefyd sgiliau trefnu a TG ardderchog a’r gallu i
reoli a hyrwyddo digwyddiadau yn ymwneud â gwahanol weithgareddau prosiect.
Bydd y swydd wedi ei lleoli yn Archifau Conwy, Llandudno, a bydd yn
rhaid i’r Swyddog Prosiect deithio i Benmaenmawr a Llansannan yn
rheolaidd, yn ogystal ag i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn
unol â chais y Rheolwr Prosiect. Efallai y bydd yn rhaid i’r Swyddog
Prosiect weithio gyda’r nosau ac ar benwythnosau.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y
swydd hon.
Am fwy o fanylion ac am ffurflen gais, ewch i'r linc isod:
http://www.conwy.gov.uk/drjobs1.asp?cat=1608&doc=1149&record=3999&Language=2
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Susan Ellis, Rheolwr Archifau a
Diwylliant (01492 577550)
Vicky Jones Rheolwr Busnes ARCW / ARCW Business Manager Llyfrgell
Genedlaethol Cymru National Library of Wales [log in to unmask]
Ffôn / Phone (01970) 632 546 Oriau Gwaith / Working Hours 8.30am - 3pm,
Dydd Llun - Mercher/Monday - Wednesday, 8.30-12.30pm Dydd Iau/Thursday
Un o lyfrgelloedd mawr y byd One of the great libraries of the world
http://www.llgc.org.uk/
Contact the list owner for assistance at [log in to unmask]
For information about joining, leaving and suspending mail (eg during a holiday) see the list website at
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?A0=archives-nra
|