President of the European Commission/President of the European Council: Llywydd neu Arlywydd?
Unrhyw farn ar yr uchod, os gwelwch yn dda?
Mae Llywydd yn swnio’n fwy naturiol i mi yn Gymraeg nag arlywydd, gan mai gwladwriaeth yn hytrach na chomisiwn sy’n fwy arferol ar gyfer Arlywydd yn Gymraeg. Defnyddir president yn aml yn Saesneg ar gyfer swyddi eraill ee honorary president/llywydd anrhydeddus ar gymdeithas neu glwb. Wedi dweud hynny, mae ‘yr Arlywydd Barroso’ yn swnio’n well i mi na ‘y Llywydd Barroso’ am ryw reswm.
Llywydd a ddefnyddir amlaf gan y BBC, ac yn y Cofnod, gyda llaw.
Ond mae’n fater ychydig mwy gwleidyddol na hynny hefyd. Onid yw'r Undeb Ewropeaidd yn fath o wladwriaeth? Soniodd Andrew Rawnsley am hyn yn yr Observer ddydd Sul:
“Europe is the only polity with two presidents – one of its commission and one of its council. And neither of them is a president in a way understood anywhere else.”
Felly, er nad arlywyddion cyffredin mohonynt, a ddylid eu galw’n arlywyddion beth bynnag?
Diolch o flaen llaw.
|