Nid ymholiad termau yw hwn, ond gan fod pobl wedi helpu gyda chaneuon o
dro i dro, tybed a yw rhywun yn gwybod rhywbeth ynghylch y darn uchod.
'Rwyf wedi cael cais am help gan fam ifanc - ac alla i ddim dweud fy mod
i'n deall y rhesymeg na'r iaith yn iawn, ond, wedi holi, deallaf fod
ganddi eiriau'r darn eisoes, ond mae angen y gerddoriaeth - hen nodiant
neu sol-ffa, nid oes ots:
"ma [fy merch] yn canu y darn Gweddi yn eisteddfod yr Ysgol wythnos
nesa- darn syn dechre " Wedi cadw' r llyfrau I gyd..... I chin gwybod
ble gallen ni cal gafael yn y darn cerddoriaeth? Mar Ysgol ddim am roi
gan ei bod yn rhoid mantais I blant ddim-cymraeg!!
A oes 'na rywun sy'n gwybod rhagor am y darn, ac, a yw ar gael mewn
unrhyw gasgliad arbennig o donau?
Llawer o ddiolch,
Ann
|