Diolch i esiampl Sylvia Prys Jones, 'rwyf wedi dechrau darllen hen, hen
nofelau ditectif Cymraeg. Soniais wrth Bruce y bore 'ma am ymadrodd
mewn un ohonynt (o ddechrau'r tridegau), fod rhywun "fel barn ar datws"
ac 'roedd Bruce wrth ei fodd. Nid oedd erioed wedi gweld yr ymadrodd ar
ddu a gwyn, dim ond ei glywed gan ei fam a oedd, 'roedd o'n amau'n gryf,
wedi'i gael gan ei thad. Mae'n disgrifio rhywun sydd yn bla, ac yn bali
niwsans, a chymerai mai "potato blight" fyddai "barn ar datws".
O edrych yn y Cydymaith, cawsom fod awdur y nofel a thaid Bruce yn dod
o'r un ardal.
Tybed a oes 'na rai eraill sy'n gyfarwydd a'r ymadrodd? Gyda'r un ystyr?
O ba ardal?
Llawer o ddiolch,
Ann
|