Ar wahan i bobl ifainc sydd newydd orffen eu haddysg, faint o bobl sy'n
gwybod beth yw "in suspension". 'Rwy'n amau weithiau bod rhai termau yn
*fwy cyfarwydd* yn y Saesneg nag yn y Gymraeg, ond a yw pobl yn eu gwir
ddeall - dyna gwestiwn arall.
Ann
Original email:
-----------------
From: GERAINT LOVGREEN [log in to unmask]
Date: Wed, 19 Mar 2014 11:33:50 +0000
To: [log in to unmask]
Subject: Re: suspension
Dwi wir yn methu deall pam dy fod yn gweld 'daliant' yn glogyrnaidd - mae'n
air sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredin iawn mewn gwersi Cemeg ledled y
wlad erbyn hyn a dwi ddim yn gweld unrhyw gyfiawnhad dros roi 'in
suspension' mewn cromfachau ar ei ol chwaith!!
Os ydyn ni am ddechrau rhoi cyfieithiad Saesneg mewn cromfachau ar ol bob
gair Cymraeg sydd "bron byth yn cael defnydd" (honiad anhygoel o ystyried y
twf mewn addysg Gymraeg) ddown ni byth i ben.
Mae'n fy ngwneud innau braidd yn flin, felly dwi'n cytuno efo Ann yn fama!
Geraint
________________________________
From: Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 19 March 2014, 11:29
Subject: Re: suspension
Dwi'm yn ei gymryd fel tae'n 'gas', peidiwch â phoeni...
Dwi'n chwilio am unrhyw a phob cyfle i BEIDIO â defnyddio'r Saesneg...ac
hefyd yn ceisio gwneud cyfieithiadau'n gwbl ddealladwy ac yn rhwydd i'w
darllen.
Anodd lle mae gair Cymraeg i'w gael, ond bron byth yn cael defnydd. Dwi
wedi rhoi'r Gymraeg y tro hwn... a'r Saesneg mewn cromfachau (brackets) :-)
On 19/03/2014 11:23, [log in to unmask] wrote:
> Ym mha ffordd y mae "daliant" yn fwy clogyrnaidd na "syspensiwn"? Ydych
> chi'n golygu "na fydd y Cymro cyffredin yn gyfarwydd ag o"? Os felly,
> byddai'n werth ichi roi "mewn daliant (in suspension)" wrth son am mater y
> tro cyntaf.
>
> Teimlaf fy mod i wedi gweld nifer o negeseuon yn y dyddiau diwethaf sydd
> fel petai'n chwilio am gyfiawnhad dros ddefnyddio gair Saesneg am fod y
> gair Cymraeg yn rhy "anodd".
>
> Dim yn bwriadu bod yn gas, ond mae'n wir.
>
> Ann
>
> Original email:
> -----------------
> From: Dafydd Timothy [log in to unmask]
> Date: Wed, 19 Mar 2014 11:03:55 +0000
> To: [log in to unmask]
> Subject: suspension
>
>
> Bore da...
> Y cyd-destun ydi meddyginiaethau...
>
> un ai ar ffurf 'hylif' neu *'suspension'*.
> 'Daliant' ydi'r unig air wela i sy'n agos at hwn ond braidd yn glogyrnog?
> 'Syspensiwn'? 'Cymysgedd' braidd yn benagored?
>
> Diolch,
> Dafydd
>
>
> --------------------------------------------------------------------
> myhosting.com - Premium Microsoft Windows and Linux web and application
> hosting - http://link.myhosting.com/myhosting
--------------------------------------------------------------------
mail2web.com Enhanced email for the mobile individual based on Microsoft
Exchange - http://link.mail2web.com/Personal/EnhancedEmail
|