Dwi'n hoffi 'fel mellten i bren' - da!
Sioned
On 18 Mar 2014, at 12:22, [log in to unmask] wrote:
> Dyma'r trydedd tro imi geisio ateb y neges hon, a'r cysylltiad wedi methu
> bob tro, felly maddewuch imi os cewch sawl copi.
>
> Ni welaf unrhyw angen defnyddio cyfieithiad o'r Saesneg pan fo cymaint o
> fersiynau Cymraeg ar gael - i'w dathlu a'u poblogeiddio. O ran hynny,
> mae'n swnio fel cyfeiriad at sylw gan "fresher" prifysgol, yn debyg i "out
> of the mouths of babes and sucklings" (yn Saesneg 'rwy'n adnabod fy Meibl).
>
> Mae Bruce newydd gofio posibilrwydd arall: fel mellten i bren.
>
> Ann
>
> Original email:
> -----------------
> From: Geraint Lovgreen [log in to unmask]
> Date: Tue, 18 Mar 2014 10:21:02 +0000
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: out of the blue
>
>
> Dwi wedi clywed "allan o'r glas" hefyd, a'i weld mewn testun reit safonol
> hefyd, er fedra i ddim cofio lle!
>
> Dwi'm yn gweld bod dim yn bod arno - y ddelwedd sy'n bwysig ynde, sef bod
> rhywbeth yn digwydd yn sydyn fel taranfollt allan o'r awyr las.
>
> Geraint
>
> Sent from my iPhone
>
> On 18 Mawrth 2014, at 10:02 AM, Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
> wrote:
>
>> Diolch i chi i gyd. Dwi'n tueddu i anghofio nad yw popeth yn y fersiwn
> arlein - dylwn fod wedi edrych yn y copi caled!
>>
>> Diolch
>> Sioned
>>
>>
>> On 17 Mar 2014, at 16:18, anna gruffydd wrote:
>>
>>> Fel huddyg i botes, fel barcud ar gyw. (O dan blue, nid out, ma isio
> chwilio!)
>>>
>>> Anna
>>>
>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>> Tread with care and not in haste!
>>>
>>>
>>> 2014-03-17 17:14 GMT+01:00 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>:
>>>> Oes yna ddywediad Cymraeg naturiol am 'out of the blue'? Dwi'n rhyw
> deimlo y dylai yna fod, ond fedra i ddim meddwl am un. Wedi edrych yn GyA
> ond methu gweld un yno (er ei bod yn bosib mod i wedi ei fethu gan fod
> cymaint o ddywediadau yn cynnwys 'out'!)
>>>>
>>>> Diolch am unrhyw gynnig
>>>> Sioned
>>
>
>
> --------------------------------------------------------------------
> myhosting.com - Premium Microsoft Windows and Linux web and application
> hosting - http://link.myhosting.com/myhosting
|