Ym mha ffordd y mae "daliant" yn fwy clogyrnaidd na "syspensiwn"? Ydych
chi'n golygu "na fydd y Cymro cyffredin yn gyfarwydd ag o"? Os felly,
byddai'n werth ichi roi "mewn daliant (in suspension)" wrth son am mater y
tro cyntaf.
Teimlaf fy mod i wedi gweld nifer o negeseuon yn y dyddiau diwethaf sydd
fel petai'n chwilio am gyfiawnhad dros ddefnyddio gair Saesneg am fod y
gair Cymraeg yn rhy "anodd".
Dim yn bwriadu bod yn gas, ond mae'n wir.
Ann
Original email:
-----------------
From: Dafydd Timothy [log in to unmask]
Date: Wed, 19 Mar 2014 11:03:55 +0000
To: [log in to unmask]
Subject: suspension
Bore da...
Y cyd-destun ydi meddyginiaethau...
un ai ar ffurf 'hylif' neu *'suspension'*.
'Daliant' ydi'r unig air wela i sy'n agos at hwn ond braidd yn glogyrnog?
'Syspensiwn'? 'Cymysgedd' braidd yn benagored?
Diolch,
Dafydd
--------------------------------------------------------------------
myhosting.com - Premium Microsoft Windows and Linux web and application
hosting - http://link.myhosting.com/myhosting
|