Diffyg cyd-destun ydy'r broblem. Meddalwedd a ddefnyddir ar gyfrifiaduron beiciau ymarfer corff sydd dan sylw, ond mae'r termau a'r brawddegau wedi'u gosod mewn tabl mewn dogfen Excel, ac mae'r asiantaeth cyfieithu yn methu cael gafael ar neb o'r cwmni (o'r UDA) sydd wedi comisiynu'r gwaith. Does dim manylion cefndir ynghylch , ac ar brydiau, mae'n anodd gwybod ai berf, enw ynteu ansoddair sydd dan sylw.
Ta waeth, diolch yn fawr iawn am yr awgrymiadau defnyddiol dros ben.
Sent from my BlackBerry® wireless device
-----Original Message-----
From: Dafydd Tomos <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Fri, 14 Mar 2014 23:30:52
To: <[log in to unmask]>
Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
<[log in to unmask]>
Subject: Re: Termau cyfrifiadurol - timeout a boot
On Mar 14, 2014, Gareth Jones wrote:
> Ydy 'version' yn cyfeirio at 'boot' yn hytrach na 'console'? Mae
> trefn y geiriau yn awgrymu hynny i mi.
Wel mae e'n cyfeirio at y ddau, felly fersiwn y "boot console", ond
mae arfer o roi rhif fersiwn ar ddiwedd enw'r rhaglen.
* Consol ymgychwyn, fersiwn X
* Fersiwn consol ymgychwyn: X
Mae'r atalnodau yn gwneud yr ystyr yn gliriach ond mi fydde angen
y cyd-destun llawn i weld yn union be sy o dan sylw fan hyn.
|