Gan fod Arad Goch wedi teithio sioe a'r teitl 'SXTO' yn helaeth i ysgolion a chanolfannau ar y pwnc hwn, fyddwn i'n dadlau bod y gair wedi ennill ei blwyf bellach, a bod y sillafiad 'secstio' yn gwneud synnwyr.
Wedi'r cyfan gallai 'anfon negeseuon testun rhywiol' fod yn rhywbeth mae pobl yn mwynhau ei wneud, heb yr elfen o fwlio sydd yn is-destun i secstio.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 15 January 2014 14:19
To: [log in to unmask]
Subject: Sexting
Prynhawn da,
Rwy'n gwybod bod 'sexting' eisoes wedi'i drafod, a hynny nôl yn 2012, ond beth yw barn pobl ynglŷn â 'sexting' erbyn hyn? Ydy 'secstio' yn dderbyniol? Yn bersonol mae'n well gen i 'anfon negeseuon testun rhywiol'.
Cofion,
Meinir
|